Fe'm siomwyd gan y ddaear, Fe'm siomwyd gan y byd, Fe'm siomwyd gan fy nghalon, Yn fwy nâ'r rhai'n i gyd: Mewn myrdd o demtasiynau, A mil o groesau'r llawr, Ni safodd neb yn ffyddlon, Ond fy Eiriolwr mawr. O Arglwydd dyro olwg, Ar dy anfeidrol rym, Yn wyneb holl ddichellion, A llid gelynion llym: Un olwg ar dy haeddiant, Yr iawn anfeidrol fawr, Wnai bob gelyn gilio, A syrthio oll i lawr.Pigion o Hymnau &c. 1808 efallai o | possibly from Grawnsypiau Canaan 1795
Tôn [7676D]: gwelir: Daeth i mi iechydwriaeth |
I was disappointed by the earth, I was disappointed by the world, I was disappointed by my heart, More than them all: In a myriad of temptations, And a thousand crosses of the earth below, No-one at all stood faithful, But my great Mediator. O Lord grant a look Upon thine infinite power, In the face of all the wiles And the wrath of a keen enemy: One look upon thy merit, The great, immeasurable atonement, That would make every enemy retreat, And all fall down.tr. 2025 Richard B Gillion |
|